Skip to content

Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Statudol (PAC)  

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru wrth eu boddau i fod yn gweithio gyda’i gilydd ar y prosiect cyffrous hwn wedi’i ganolbwyntio ar fuddsoddiad sylweddol mewn adfywio ardal glannau Porthcawl.  Rydym bellach yng nghyfnod yr Ymgynghoriad Cyn-ymgeisio Statudol (PAC), ac yn barod gyda lluniadau a dogfennau ein cais cynllunio drafft, a hoffem gael eich sylwadau arnynt. 

 Mae ein hymgynghoriad PAC yn cynnwys:  

  • • Darparu dogfennau cais cynllunio drafft, drwy’r wefan hon 
  • • Cynnal digwyddiad galw heibio i weld dogfennau cais cynllunio drafft 
  • • Hysbysu ymgyngoreion statudol am yr ymgynghoriad 
  • • Cyfnod ymgynghori sy’n fwy na 28 diwrnod; ac 
  • • Ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, cynhyrchu ‘Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio’

 

Gweler dogfennau a lluniadau’r cais cynllunio amlinellol drafft ar gyfer Glannau Porthcawl isod. Mae’r rhain ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae’r hysbysiadau statudol yma

Bydd yr ymgynghoriad ar agor o 19 Tachwedd 2025 hyd at 5 Ionawr 2026 

 

Hoffem gael eich adborth, anfonwch e-bost at feedback@porthcawlwaterfront.co.uk. Neu ysgrifennwch at FREEPOST Grasshopper Consult. 

1.0 Technical Drawings