Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Borthcawl, gyda’r dref wedi’i chlustnodi ar gyfer cyllid ac adfywio sylweddol. Er mwyn sicrhau’r buddion hirdymor mwyaf posibl i drigolion ac ymwelwyr, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru wedi llunio cytundeb tirfeddiannwr i weld cynnydd y Glannau fel un datblygiad cytûn.
Mae prosiect Adfywio Glannau Porthcawl bellach yn cychwyn ar gyfnod allweddol wrth i’r Cyngor a Llywodraeth Cymru gydweithio ar Uwchgynllun cynhwysfawr ar gyfer y Glannau. Dyma gam olaf y broses ymgynghori anstatudol lle rydym yn awyddus i glywed gan y gymuned am yr Uwchgynllun. Mae cynigion yr Uwchgynllun wedi’u llunio gan ymgysylltu cymunedol blaenorol, gan gynnwys y Strategaeth Creu Lleoedd a’r ymgynghoriadau Dylunio Cysyniad Mannau Agored, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion y gymuned leol.
Mae cynigion yr Uwchgynllun a welwch heddiw yn darparu cynllun lefel uchel ar gyfer sut y gellid datblygu’r Glannau. Byddai’r adborth o’r ymgynghoriad hwn yn helpu i lunio’r Uwchgynllun a llywio’r cynlluniau manwl a fyddai’n dod ymlaen wrth i’r datblygiad fynd rhagddo. Bydd yr holl fanylion ynghylch sut y byddai elfennau o’r cynigion yn cael eu cyflawni’n derfynol – megis draeniad, carthffosiaeth, faint o fannau agored ac edrychiad, union nifer y cartrefi, ac union osodiad a golwg y datblygiad, yn destun ceisiadau cynllunio yn y dyfodol – ac nid yr ymgynghoriad hwn.
Bydd y datblygiad terfynol ar y Glannau yn cael ei adeiladu fesul cam ac yn cynnwys datblygwyr gwahanol. Byddai cod dylunio, y cytunir arno gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel rhan o’r broses gynllunio a byddai hwn yn gosod y safonau y mae’n rhaid i ddatblygwyr y dyfodol sy’n cyflwyno unrhyw ran o’r Uwchgynllun yn y dyfodol gydymffurfio â nhw. Byddai hyn yn sicrhau bod y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn sicrhau datblygiad o’r ansawdd uchaf a’r budd mwyaf i drigolion.
Mae’r Uwchgynllun wedi’i baratoi â’r mewnbwn gan dîm amlddisgyblaethol o ddylunwyr a pheirianwyr. Wrth i’r Uwchgynllun fynd yn ei flaen bydd y dyluniad yn destun mewnbwn dylunio a pheirianneg ychwanegol a bydd yn cael ei lunio gan ragor o arolygon ac astudiaethau technegol Darllenwch ein byrddau arddangos i ddarganfod mwy am y prosiect:
cliciwch yma am fyrddau Arddangos