Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Borthcawl, gyda’r dref wedi’i chlustnodi ar gyfer cyllid ac adfywio sylweddol. Er mwyn sicrhau’r buddion hirdymor mwyaf posibl i drigolion ac ymwelwyr, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru wedi llunio cytundeb tirfeddiannwr i weld cynnydd y Glannau fel un datblygiad cytûn.
Mae prosiect Adfywio Glannau Porthcawl bellach yn cychwyn ar gyfnod allweddol wrth i’r Cyngor a Llywodraeth Cymru gydweithio ar Uwchgynllun cynhwysfawr ar gyfer y Glannau. Dyma gam olaf y broses ymgynghori anstatudol lle rydym yn awyddus i glywed gan y gymuned am yr Uwchgynllun. Mae cynigion yr Uwchgynllun wedi’u llunio gan ymgysylltu cymunedol blaenorol, gan gynnwys y Strategaeth Creu Lleoedd a’r ymgynghoriadau Dylunio Cysyniad Mannau Agored, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion y gymuned leol.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiwygio’r uwchgynllun mewn modd sy’n ymateb i ymatebion yr ymgynghoriad, a dderbyniwyd yn fwyaf diweddar ym mis Chwefror 2025, ochr yn ochr â chwblhau gwaith technegol pellach.
I grynhoi, mae’r meysydd allweddol lle mae gwelliannau’n cael eu hystyried yn ymwneud â’r canlynol:
- • Gostyngiad yn nifer y tai gan barhau i gydymffurfio â’r safbwynt polisi cynllunio cyffredinol;
- • Adolygiad o uchderau adeiladau;
- • Adolygu a mireinio mannau agored – gan sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng ansawdd, graddfa, defnyddioldeb nodweddion, cysylltedd a nifer y mannau. Rhaid ystyried rheolaeth hirdymor / cynnal a chadw mannau hefyd er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol; a
- • Mynegiant o ddiddordeb / marchnata meddal i lywio elfennau hamdden – bydd canfyddiadau hyn yn llywio elfennau hamdden yr uwchgynllun yn uniongyrchol.
Y cyfle nesaf i adolygu’r fersiwn ddiweddaraf o gynigion yr uwchgynllun fydd yn ystod y cyfnod Ymgynghori Cyn Ymgeisio (PAC), y disgwylir iddo ddechrau tua diwedd y flwyddyn hon.
cliciwch yma am fyrddau Arddangos
Arddangoswyd astudiaethau ychwanegol yn y digwyddiad 3 Chwefror 25